Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (85)v8 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
3. Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.44 (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:
1. Cyfieithu Cofnodion o Drafodion y Cynulliad 1, 5
2. Cyhoeddi Cofnodion o Drafodion y Cynulliad 9
3.Penodi Swyddog Cyfrifol 6
4. Ystyr y Ddarpariaeth 2
5. Darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys yn y Cynllun 10, 11, 12
6.Gwasanaethau a ddarperir o dan y Cynllun 7, 8
7. Ymgynghori ar y Cynllun 3, 4
Dogfennau Ategol:
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) Memorandwm Esboniadol Diwygiedig
Rhestr o welliannau wedi’u
didoli
|
4. Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.47 (5 munud)
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Comisiynydd gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) o dan Reol Sefydlog 26.47.
|
5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru (60 munud)
NDM5053 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Cysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2012.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Dogfennau Ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
|
6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5054 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r pryderon a fynegwyd ledled Cymru ynghylch cynigion byrddau iechyd lleol ar gyfer dyfodol gofal newyddenedigol; ac
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau y bydd gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn dal ar gael yng Ngogledd Cymru;
b) sicrhau na fydd dim o’r gwasanaethau gofal newyddenedigol presennol yng Ngorllewin Cymru yn cael eu hisraddio; a
c) sicrhau bod capasiti gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn Ne Cymru yn gallu ateb y gofyn.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt 2b a rhoi yn ei le: sicrhau bod strategaeth ar waith er mwyn gweld gwasanaethau newyddenedigol yn gwella yng Ngorllewin Cymru
|
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5052 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Cefnogi buddsoddiad yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod
Cefnogi cynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol Powys i fuddsoddi yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod.
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 9 Hydref 2012